Cyrsiau Hunan-Reoli

Mae llawer o bobl yn profi gorbryder, hwyliau isel, straen, diffyg hunan-fri (self-esteem), neu bryder. Gall ymdopi â’r emosiynau hyn effeithio ar hunanhyder pobl a chreu trafferthion yn eu bywydau.

Yn Amser i Siarad, mae ein cyrsiau wedi’u dylunio i’ch helpu chi i ddeall beth sy’n mynd ymlaen ac i wneud newidiadau cadarnhaol yn eich bywyd. Mae pob cwrs yn defnyddio dulliau Therapi Ymddygiad Gwybyddol sydd wedi eu hen brofi ac sy’n cael eu cynnal gan hwyluswyr medrus a phrofiadol.

Mae’r grwpiau’n para am 2 awr bob wythnos am saith wythnos ac yn aml ar gael mewn amrywiaeth o leoliadau nad oes stigma yn gysylltiedig â nhw ar draws Ynys Môn a Gwynedd.

Beth allaf i ei ddisgwyl?

Wrth gymryd rhan mewn cwrs, gallwch ddisgwyl bod ochr yn ochr â grŵp o rhwng 8 i 12 o bobl sy’n profi trafferthion tebyg i chi, a dysgu gyda’ch gilydd y sgiliau perthnasol a fydd yn eich galluogi i gymryd rheolaeth dros eich bywyd a’ch trafferthion dros eich hunain mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol nad yw’n fygythiol nac yn feirniadol.

Gan fod gan y cyrsiau’n dilyn fframwaith Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT), yn benodol byddwch yn archwilio’r berthynas rhwng sut mae eich meddyliau yn effeithio ar eich emosiynau a sut mae hyn yn dangos yn eich ymddygiad. Weithiau gallwn ni ddod yn styc ac nid yw ein hymddygiadau yn effeithiol o ran ein helpu i gael beth rydym ni’n dymuno ei gael o fywyd. Gall y cyrsiau hyn eich helpu i ddysgu a defnyddio sgiliau effeithiol, yn ogystal â bod yn gam cyntaf tuag at ymwybyddiaeth o ran beth sy’n mynd ymlaen gyda chi.

Mae’r cyrsiau hefyd yn defnyddio dull gosod nodau a datrys problemau ac yn y sesiwn gyntaf, byddwn yn gofyn i chi osod nod bach a fyddai’n ddefnyddiol i chi weithio arno dros y saith wythnos a bydd yn eich helpu i symud ymlaen yn eich bywyd. Mae rhai o’r cyrsiau hefyd yn ymgorffori arfer Ymwybyddiaeth Ofalgar (Mindfulness) wythnosol a gallwch chi ddewis rhwng:

Hyfforddiant Sgiliau Pendantrwydd

ystyried pam mae pobl yn cael trafferth bod yn bendant (assertive) ac yn helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i ddatblygu sgiliau i ymdopi â beirniadaeth, dweud na ac atal pobl rhag cymryd mantais ohonynt.

Meithrin Hunan-fri (Self-esteem)

helpu’r rheiny sy’n cymryd rhan i ddeall sut mae meddyliau a chredoau yn gallu arwain at ddiffyg hunan-fri. Maent yn dysgu sgiliau i gynyddu hunanhyder ac yn ymarfer strategaethau i gynnal hunan-fri.

Ymdopi gyda Cholled a Newid Sylweddol

galluogi’r rheiny sy’n cymryd rhan i nodi strategaethau i reoli’r teimladau anodd a all godi yn sgil colledion fel ysgariad, gwahanu, profedigaeth, colli gwaith, anaf a gwaeledd.

Rheoli Gorbryder

helpu’r rheiny sy’n cymryd rhan i ddeall beth yw gorbryder a sut mae’n cael ei gynnal. Mae’r rheiny sy’n cymryd rhan yn dysgu amrywiaeth o sgiliau ymarferol i helpu i leihau gorbryder.

Rheoli Iselder

galluogi’r rheiny sy’n cymryd rhan i ddeall y meddyliau, y teimladau a’r ymddygiadau sy’n creu iselder ac i ddatblygu sgiliau sy’n helpu i dorri’r cylch hwn.

Sgiliau Rheoli Straen

helpu pobl i nodi beth sy’n achosi straen a’i effeithiau. Mae’n gyfle i ddysgu sgiliau ymarferol i helpu i reoli straen yn fwy effeithiol.