Meddwlgarwch
Mae Amser i Siarad yn cynnig cyrsiau Meddwlgarwch wyth wythnos yn Ynys Môn a Gwynedd, ac maent wedi’u dylunio i’ch helpu i ddeall a dod yn ymwybodol o’ch meddyliau a’ch emosiynau yn y foment bresennol heb unrhyw feirniadaeth.
Beth yw meddwlgarwch?
Techneg y gallwch ei dysgu yw meddwlgarwch sy’n ymwneud â sylwi ar yr hyn sy’n digwydd yn y presennol, heb farnu. Efallai byddwch chi’n sylwi ac yn ymwybodol o’ch meddwl, eich corff neu eich amgylchedd. Mae gan y dechneg ei gwreiddiau ym myfyrdod, ond nid oes rhaid i chi fod yn ysbrydol, neu gael unrhyw gredoau penodol, i roi cynnig arni.
Mae meddwlgarwch yn ceisio eich helpu i:
- ddod yn fwy hunan-ymwybodol
- teimlo’n fwy tawel eich meddwl â llai o straen
- teimlo’n fwy galluog o ran sut rydych chi’n dewis ymateb i’ch meddyliau a theimladau
- ymdopi â meddyliau sy’n anodd neu nad ydynt yn ddefnyddiol
- bod yn fwy caredig tuag at eich hun.
Sut mae meddwlgarwch yn gweithio?
Mae meddwlgarwch yn gweithio drwy gymryd eich ffocws i’r presennol ac i ffwrdd o feddyliau eraill.
Gall y ffordd yr ydym yn meddwl, a’r hyn yr ydym yn meddwl amdano, effeithio ar y ffordd yr ydym yn teimlo ac yn ymddwyn. Er enghraifft, os ydych chi’n meddwl neu’n poeni llawer am ddigwyddiadau anodd yn y gorffennol neu’r dyfodol, efallai byddwch chi’n teimlo’n drist neu’n bryderus yn aml.
Mae’n ddealladwy eich bod am stopio meddwl am bethau anodd. Ond gall ceisio cael gwared ar feddyliau anodd yn aml wneud i ni feddwl amdanynt hyd yn oed yn fwy.
Y theori y tu ôl i feddwlgarwch yw drwy ddefnyddio technegau amrywiol i ddod â’ch sylw i’r presennol, gallwch chi:
- Sylwi ar sut mae meddyliau’n mynd a dod yn eich meddwl. Efallai byddwch chi’n dysgu nad oes rhaid iddynt ddiffinio pwy ydych chi, na’ch profiad o’r byd, ac y gallwch eu gadael i fynd.
- Sylwi ar yr hyn y mae’ch corff yn ei ddweud wrthych. Er enghraifft, efallai byddwch chi’n teimlo tensiwn neu bryder yn eich corff, megis curiad calon cyflym, cyhyrau tynn neu anadlu bas.
- Creu lle rhyngoch chi a’ch meddyliau. Gyda’r lle hwn, gallwch adlewyrchu ar y sefyllfa ac ymateb yn fwy pwyllog.