Croeso i wefan Amser i Siarad
Amser i Siarad ydym ni, elusen iechyd meddwl lleol sy’n cefnogi pobl Ynys Môn a Gwynedd sy’n profi problemau iechyd meddwl.
Rydym ni’n sefydliad llawr gwlad ac yn cefnogi oedolion, plant a phobl ifanc yng nghraidd ein cymuned leol.
Rydym ni’n darparu gwybodaeth ac amrywiaeth o wasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd a lles meddwl. Er ein bod wedi ein lleoli yng Nghaernarfon, rydym ni’n cynnal ein holl wasanaethau ar draws Gwynedd a Môn.
Gallwch gysylltu a Amser i Siarad
I siarad am iechyd meddwl
I gael gwybodaeth yn rhad ac am ddim
I gael cefnogaeth un i un cyfrinachol
Arwain y ffordd mewn Gwaith Gwrth-Stigma
Prif ffocws gwasanaeth Amser i Siarad yw gwaith gwrth-stigma. Rydym ni’n anelu at drechu’r stigma a’r gwahaniaethu yn y gymuned ehangach trwy ein prosiectau, ein hyfforddiant a’n gwaith ymgyrchu. Ein prif nod yw creu cymuned lle mae pobl yn teimlo eu bod yn gallu siarad yn agored am eu problem iechyd meddwl heb ofni cael eu gwrthod nac unrhyw wahaniaethu. Rydym ni hefyd yn anelu at hyrwyddo iechyd meddwl a lles da, sy’n bwysig i bob un ohonom ni. Rydym ni’n cynnal ein holl brosiectau allan yn y gymuned ac yn credu bod pawb yn gallu gwella. Rydym ni’n canolbwyntio ar allu ac nid anallu ac mae ein prosiectau ar agor i’r cyhoedd.
Newyddion Diweddaraf
Gweithio gyda Pobl Ifanc
Rydym yn gweithio gyda plant a phobl ifanc ar draws Ynys Môn a Gwynedd o fewn ysgolion, colegau ac yn y gymuned.
Mae ein gwasanaeth Amser i Siarad yn gyfle i blant a phobl ifanc i siarad am iechyd meddwl, i gael gwybodaeth yn rhad ac am ddim, ac i gael cymorth un-i-un cyfrinachol. Mae sesiynau Amser i Siarad yn cael eu rhedeg mewn ysgolion a cholegau ar draws Ynys Môn a Gwynedd, yn ogystal â lleoliadau yn y gymuned, ac mae ein Gweithwyr Adfer yn defnyddio technegau Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) ac ymwybyddiaeth ofalgar i alluogi plant a phobl ifanc i gymryd rheolaeth o’u bywydau eu hunain.