Amdanom

Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un, y cyfoethog a’r tlawd, yr ifanc a’r hen, gan effeithio’n sylweddol ar fywydau’r rheiny dan sylw a bywydau’r rheiny sydd agosaf atyn nhw.

Bydd un o bob pedwar ohonom ni’n profi problem iechyd meddwl ar ryw bwynt yn ein bywydau. Dim ond 25% o’r rheiny sy’n profi problem sy’n hysbys i wasanaethau. Nid yw’r 75% sy’n weddill yn hysbys, ac nid ydyn nhw’n cysylltu â gwasanaethau nac yn ceisio help oherwydd y stigma a’r gwahaniaethu sydd ynghlwm ag iechyd meddwl yn y gymuned ehangach.

Nodau

Ein prif nod yw normaleiddio problemau iechyd meddwl a chreu cymuned lle gall pobl siarad yn agored am eu problem iechyd meddwl heb ofni cael eu gwrthod neu ddioddef gwahaniaethu.

Rydym ni’n cynnal ein holl wasanaethau mewn lleoliadau bob dydd, fel canolfannau celf.

Gweithio gyda phobl ifanc

Rydym ni’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws Ynys Môn a Gwynedd yn y gymuned leol yn ogystal ag mewn ysgolion a cholegau trwy gefnogi gwasanaethau myfyrwyr i ddarparu:

  • Amser i Siarad (gwasanaeth un-i-un cyfrinachol)
  • Cyrsiau seiliedig ar Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) fel Rheoli Gorbryder (Anxiety)
  • Grwpiau Cymorth Cymheiriaid
  • Gweithdai Gwrth-Stigma
  • Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Ieuenctid.

Amser I Siarad

Mae Amser i Siarad yn wasanaeth 1-1 cyfrinachol a gynigir i bobl mewn lleoliadau bob dydd nad oes stigma yn gysylltiedig â nhw.

Mae’n gyfle i chi siarad am unrhyw beth sy’n eich poeni chi, cael cymorth a gwybodaeth, a rhoi i chi’r sgiliau i hunan-reoli.