Hyfforddiant
Gall Amser i Siarad ddarparu Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Ieuenctid. Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yw’r cymorth sy’n cael ei roi ar frys i rywun sy’n profi gofid meddwl. Mae Amser i Siarad yn ceisio cynyddu nifer y Gofalwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl o fewn y gymuned gyda’r nodau canlynol:
- I adnabod symptomau gofid meddwl
- I ddiogelu bywyd pan fo person yn peryglu eu hunain neu eraill
- Darparu cymorth i atal gofid meddwl rhag datblygu yn gyflwr mwy difrifol
- Hyrwyddo adferiad iechyd meddwl da
- Darparu cysur i berson sy’n profi gofid meddwl.
Mae problemau iechyd meddwl yn eithriadol o gyffredin. Bydd un o bob pedwar person yn profi problem gyda’u hiechyd meddwl mewn cyfnod o flwyddyn. Er gwaethaf pa mor gyffredin yw problemau Iechyd Meddwl, maent yn parhau i gael eu camddeall ac nid ydynt yn cael eu trafod yn gyhoeddus yn aml. Pan fyddant yn destun trafod, yn aml yn y cyfryngau cânt eu cyflwyno yn anghywir sy’n arwain at ofn, stigma a gwahaniaethu. Yn ei dro, mae hyn yn atal unigolion rhag ceisio cymorth. Mae llawer o bobl nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth ac yn aml nid ydynt yn gwybod sut i ymateb. Gall meddygon teulu, cwnselwyr ac aelodau timau iechyd meddwl oll helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Fodd bynnag, fel gyda damweiniau ac argyfyngau meddygol, nid yw cymorth o’r fath bob tro ar gael pan fo problem yn codi am y tro cyntaf. Dyma pryd y gall aelodau’r cyhoedd gynnig cymorth yn syth a chefnogi’r person i gael help priodol.
Mae Amser i Siarad yn ceisio uwch-sgilio cymaint o unigolion â phosib gan weithio hefyd tuag at gymuned sy’n ei gwneud yn dderbyniol i unigolion siarad yn agored am eu gofid meddwl, heb ofni cael eu gwrthod neu ddioddef gwahaniaethu, a hyrwyddo Iechyd Meddwl, Lles ac Adfer da.
Gweithdy ASIST
Mae ASIST yn weithdy rhyngweithiol deuddydd o hyd mewn cymorth cyntaf ar gyfer hunanladdiad. Mae’r gweithdy yn dysgu’r rheiny sy’n cymryd rhan i adnabod pan fo rhywun mewn perygl o ladd eu hunain a gweithio gyda nhw i greu cynllun a fydd yn helpu i’w cadw’n ddiogel.
Dros y gweithdy deuddydd o hyd, bydd ASIST yn helpu dysgwyr i:
- Ddeall sut mae agweddau personol a chymdeithasol yn effeithio ar safbwyntiau ar hunanladdiad ac ymyriadau
- Darparu cyngor a chymorth cyntaf ar hunanladdiad i berson sydd mewn perygl mewn ffordd sy’n diwallu eu hanghenion diogelwch unigol
- Adnabod prif elfennau cynllun diogelwch rhag hunanladdiad effeithiol a’r camau sydd eu hangen i’w weithredu
- Gwerthfawrogi gwerth gwella ac integreiddio adnoddau atal hunanladdiad yn y gymuned yn ehangach
- Adnabod agweddau eraill ar atal hunanladdiad gan gynnwys hyrwyddo bywyd a hunanofal