Synwyriwm - Amser i Siarad x Galeri: Synwyriwm
Crynodeb o'r Prosiect
Mae Synwyriwm yn brosiect Celfyddydau ac Iechyd a grëwyd gan Amser i Siarad (AiS) a Galeri Caernarfon mewn cydweithrediad â Phlas Newydd, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'r prosiect yn cofleidio’r celfyddydau creadigol i rymuso unigolion â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol. Byddwn yn comisiynu pum artist Cymraeg eu hiaith i gynhyrchu gweithiau celf synhwyraidd wedi’u hysbrydoli gan dreftadaeth Plas Newydd. Bydd y darnau hyn yn cael eu defnyddio mewn gweithdai creadigol gyda chleientiaid AiS, gan annog ymgysylltu a sgyrsiau ystyrlon sy'n gwella iechyd meddwl a lles.
Daw’r prosiect i ben gydag arddangosfa deithiol yn Galeri Caernarfon a Phlas Newydd, gan arddangos y gweithiau a gomisiynwyd a’r celf a grëwyd yn ystod gweithdai. Nod yr arddangosfa hon yw lleihau'r stigma sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, hybu ymwybyddiaeth, a dathlu croestoriad celf ac iechyd.
Amser i Siarad (AiS)
Elusen iechyd meddwl grassroots yw AiS sy’n cefnogi oedolion, plant a phobl ifanc ar draws Ynys Môn a Gwynedd. Wedi’i leoli yng Nghaernarfon, mae AiS yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys un i un, grwpiau therapiwtig a hyfforddiant ar draws y ddwy sir.
Galeri Caernarfon
Mae Galeri Caernarfon yn ganolfan gelfyddydau gymunedol ddielw sy’n cynnig theatr, sinema, unedau gwaith, a gofodau arddangos. Adlewyrchir ein gweledigaeth, "Creu Cyfoeth Cymunedol Cynaliadwy" yn ein rhaglenni artistig amrywiol, gan gynnwys theatr, ffilm, arddangosfeydd, cerddoriaeth, a gweithdai.
Her Iechyd y Prosiect
Mae’r prosiect yn mynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol—fel gorbryder, iselder, unigrwydd ac arwahanrwydd—drwy sesiynau creadigol sy’n meithrin hunanfynegiant a sgyrsiau, gan hybu gwydnwch a lles.
Sut i gymryd rhan:
Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfres o weithdai creadigol dan arweiniad 5 artist gwahanol. Bydd y sesiynau yn 2.5 awr ac yn rhedeg ar ddydd Gwener ar y dyddiadau isod. Rydym yn edrych i gael dau grŵp gydag uchafswm o 10 fesul grŵp. Bydd un grŵp yn rhedeg yn y bore, ac yr ail yn y prynhawn.
Artist 1:
Mai 2il, Plas Newydd gyda’r artist Ticky Lowe
Grŵp 1: 10:00 – 12:30 | Grŵp 2: 13:30 – 16:00
Mai 9fed, Galeri Caernarfon gyda’r artist Ticky Lowe
Grŵp 1: 10:00 – 12:30 | Grŵp 2: 13:30 – 16:00
Artist 2:
Mai 16eg, Plas Newydd gyda’r artist Sarah Zybroska
Grŵp 1: 10:00 – 12:30 | Grŵp 2: 13:30 – 16:00
Mai 23ain, Galeri Caernarfon gyda’r artist Sarah Zybroska
Grŵp 1: 10:00 – 12:30 | Grŵp 2: 13:30 – 16:00
Artist 3:
Mehefin 6ed, Plas Newydd gyda’r artist Ffion Pritchard
Grŵp 1: 10:00 – 12:30 | Grŵp 2: 13:30 – 16:00
Mehefin 13eg, Galeri Caernarfon gyda’r artist Ffion Pritchard
Grŵp 1: 10:00 – 12:30 | Grŵp 2: 13:30 – 16:00
Artist 4:
Mehefin 20fed, Plas Newydd gyda’r artist Glyn Price
Grŵp 1: 10:00 – 12:30 | Grŵp 2: 13:30 – 16:00
Mehefin 27ain, Galeri Caernarfon gyda’r artist Glyn Price
Grŵp 1: 10:00 – 12:30 | Grŵp 2: 13:30 – 16:00
Artist 5:
Gorffennaf 4ydd, Plas Newydd gyda’r artist Ella Louise Jones
Grŵp 1: 10:00 – 12:30 | Grŵp 2: 13:30 – 16:00
Gorffennaf 11eg, Galeri Caernarfon gyda’r artist Ella Louise Jones
Grŵp 1: 10:00 – 12:30 | Grŵp 2: 13:30 – 16:00
Bydd cyfranogwyr yn derbyn pecynnau deunydd celf am ddim, a bydd cymorth ychwanegol ar gael yn ystod y sesiynau os oes angen, ochr yn ochr ag arweiniad gan yr artistiaid. P'un a ydych chi'n newydd i gelf neu'n brofiadol, mae hwn yn gyfle gwych i archwilio creadigrwydd mewn amgylchedd cefnogol.
Os hoffech ymuno, cysylltwch â Clare Bailey clare@amserisiarad.org am fwy o fanylion neu i gadw eich lle.